Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 17 Tachwedd 2022
Amser:
09.00 -
14.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13034
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Jane Dodds AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Mari Llewellyn Morgan, Cymdeithas Therapyddion Deintyddol Prydain Fiona Sandom, Cymdeithas Therapyddion Deintyddol Prydain Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Andrew Dickenson, Llywodraeth Cymru Alex Slade, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Rebekah James (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
2 Deintyddiaeth - sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Therapyddion Deintyddol Prydain
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Therapyddion Deintyddol Prydain.
3 Papur(au) i'w nodi
3.1 Llythyr gan y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch darparu tystiolaeth ysgrifenedig
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.2 Llythyr at y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch darparu tystiolaeth ysgrifenedig
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.3 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cais am wybodaeth
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.4 Llythyr gan y Coleg Nyrsio Brenhinol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch streicio
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.5 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb i alluogi trigolion Cymru i gael mynediad at lwybr diagnosis “Hawl i Ddewis” y GIG ar gyfer ADHD
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.6 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb i Wella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru
3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.7 Llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Diweddariad ar sefydlu Gweithrediaeth GIG i Gymru ac adborth arolwg rhanddeiliaid.
3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.8 Llythyr at y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3.9 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5 ac eitem 7.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
5 Deintyddiaeth: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.
6 Deintyddiaeth: sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Deintyddol.
6.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a swyddogion Llywodraeth Cymru gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o fanylion am yr amcanion a osodwyd ar gyfer y byrddau iechyd o ran deintyddion a deintyddiaeth.
7 Deintyddiaeth: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.